Psalms 91

Duw sy'n ein cadw'n saff

1Bydd y sawl mae'r Duw Goruchaf yn ei amddiffyn
yn aros yn saff dan gysgod yr Hollalluog.
2Dywedais, “Arglwydd, rwyt ti'n gaer ddiogel,
yn lle hollol saff i mi fynd.
Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i'n ei drystio.”
3Bydd Duw yn dy achub di o drap yr heliwr,
a rhag y pla marwol.
4Bydd e'n rhoi ei adain drosot ti,
a byddi'n saff o dan blu ei adenydd.
Mae'r ffaith fod Duw yn dweud y gwir
yn darian sy'n dy amddiffyn di.
5Paid bod ag ofn dim sy'n dy ddychryn yn y nos,
na'r saeth sy'n hedfan yn y dydd;
6yr haint sy'n llechu yn y tywyllwch,
na'r dinistr sy'n taro'n sydyn ganol dydd.
7Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith,
a deg mil ar y dde,
ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd.
8Byddi'n cael gweld drosot ti dy hun –
byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu cosbi.
9Wyt, rwyt ti'n lle saff i mi guddio. Arglwydd!
Gad i'r Duw Goruchaf fod yn hafan ddiogel i ti,
10a fyddi di ddim yn cael unrhyw niwed.
Fydd dim haint yn dod yn agos i dy gartre di.
11Achos bydd e'n gorchymyn i'w angylion
dy amddiffyn di ble bynnag rwyt ti'n mynd.
12Byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau
fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.
13Byddi di'n sathru'r llew a'r cobra dan draed;
fydd llewod ifanc a nadroedd ddim yn beryg i ti.
14“Dw i'n mynd i gadw'r un sy'n ffyddlon i mi yn saff,” meddai'r Arglwydd;
“bydda i'n amddiffyn yr un sy'n fy nabod i.
15Pan fydd e'n galw arna i, bydda i'n ateb.
Bydda i gydag e drwy bob argyfwng.
Bydda i'n ei achub e ac yn ei anrhydeddu.
16Bydd e'n cael byw i oedran teg,
a mwynhau bywyd, am fy mod wedi ei achub.”
Copyright information for CYM